Datblygiad parth arddangos ynni llif llanw Ynys Môn

Cynigion Datblygu Ynni Molais Menter Môn

Dweud eich Dweud

Prosiect ynni llif llanw Menter Môn yw Morlais sydd am sicrhau budd i gymunedau, yr economi a’r amgylchedd yn lleol drwy gynhyrchu trydan adnewyddadwy carbon isel. Mae Morlais yn rheoli Parth Arddangos Gorllewin Môn sef 35 km2 o wely’r môr ger Ynys Cybi. Mae gan y cynllun y potensial i fod yn un o safleoedd cynhyrchu ynni llif llanw mwyaf yn y byd gyda’r capasiti i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan.

Mae rhan un o’r prosiect yn anelu i sicrhau caniatâd i ddatblygu’r parth, gydag ymgynghori ac ymgysylltu cymunedol yn rhan allweddol o hyn. Y bwriad yw cyflwyno’r cais ym mis Gorffennaf 2019. Yna yn ddibynnol ar sicrhau caniatâd a chymeradwyaeth, bydd ail ran y prosiect yn rhoi’r isadeiledd priodol yn ei le fel y gall datblygwyr technoleg ynni llif llanw brofi eu hoffer ar raddfa fasnachol.

Llenwch yr holiadur hwn i roi gwybod i ni beth yw eich barn am y datblygiad llif llanw arfaethedig.

Rydym wedi paratoi Ymrwymiad Ymgynghori Cymunedol, sy’n cynnwys disgrifiad o elfennau’r prosiect, gwybodaeth am yr Asesiad Effaith Amgylcheddol a manylion am sut y gallwch ymateb i’r ymgynghoriad.

Dylech gyfeirio at yr Ymrwymiad Ymgynghori Cymunedol am ragor o wybodaeth i’ch helpu i roi adborth i ni am y cynnig.

Cewch hyd i gopïau electronig o holl ddogfennau’r ymgynghoriad, yn cynnwys yr holiadur hwn, ar-lein ar wefan y prosiect www.morlaisenergy.com. Hefyd, gallwch ddychwelyd yr holiadur hwn yn yr amlenni parod a ddarperir mewn digwyddiadau cyhoeddus neu gan ddefnyddio’r cyfeiriad postio isod neu drwy e-bost.

Morlais, Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwâr Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

info@morlaisenergy.com

Nid oes yn rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau nac unrhyw gwestiwn ar y ffurflen hon, ac os hoffech wneud unrhyw sylwadau eraill am y cynllun, mae lle wedi’i gadw ar gyfer hyn ar y diwedd. Mae hi’n bwysig eich bod yn cyflwyno eich adborth a’ch sylwadau atom cyn y dyddiad cau, fel y gallwn eu hystyried i’n helpu i fireinio ein cynigion.

Rydym yn gwerthfawrogi eich sylwadau yn fawr ac rydym yn hapus i roi arweiniad ar lenwi’r holiadur hwn, fel sydd angen.

Ariennir yn rhannol gan:

Page1 / 6
 
17% of survey complete.

Question Title

Image

Question Title

Image

Question Title

Image

Question Title

Image

T