Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru – Pwy sy’n gwneud beth a sut ydym ni’n gwneud?
 

 
Mae Plant yng Nghymru yn cynnal darn byr o ymchwil i ganfod gwybodaeth sylfaenol am gynllunio a darpariaeth gwasanaethau ar gyfer plant 0-8 oed yng Nghymru.

Mae’n ymgais i ganfod atebion i ystod o gwestiynau a gobeithiwn y medrwch ein helpu gyda hyn.

Mae Plant yng Nghymru wedi datblygu’r gwaith hwn gyda’i Grŵp Ymgynghorol Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ac rydym yn cysylltu â’n haelodau a gyda’n partneriaid i gasglu tystiolaeth. Gwneir hyn drwy holiaduron a galwadau ffôn. Drwy ddynodi llwyddiant ac arloesedd, bydd yn bosibl i Plant yng Nghymru ac eraill i ledaenu arfer da ac ystyried sut y gall y Partneriaethau plant weithio yn y ffordd mayaf effeithiol i sicrhau for plant yng Nghymru a’u teuluoedd/gofalwyr yn cael cynnig cyfleoedd addas a phriodol.

Byddem yn ddiolchgar pe byddech yn fodlon llenwi’r holiadur hwn yn rhoi enghreifftiau o heriau a llwyddiannau. Bwriadwn rannu’r wybodaeth mewn adroddiad a hoffem fedru defnyddio’r wybodaeth a gesglir mewn modd agored.

*
Dewiswch yr opsiwn mwyaf addas: