Arolwg Perygl Llifogydd – gwerthfawrogwn eich sylwadau chi
Mae gan Wrecsam lawer o afonydd, ffrydiau a chyrsiau dŵr, a dan amodau eithafol gallai hyn arwain at berygl llifogydd. Serch hynny, y pergyl mwyaf i eiddo yn y Bwrdeistref yw llifogydd dŵr arwyneb a achosir gan effaith glawiad difrifol a phatrymau tywydd na ellir eu rhagfynegi a gysylltir â newid yn yr hinsawdd.
Mae’r arolwg yma ar gael ar wefan y Cyngor ac yn cael ei anfon yn uniongyrchol at drigolion a busnesau mewn ardaloedd lle cafwyd llifogydd yn y gorffennol neu a allai fod mewn perygl llifogydd yn y dyfodol. Y nod yw ceisio adnabod yr hyn sy’n achosi’r perygl llifogydd i’w heiddo a deall yr effaith mae llifogydd yn ei gael ar bobl, tir ac eiddo. Gall hwn fod yn niwed emosiynol neu economaidd. Defnyddir canlyniadau’r arolwg hwn i hysbysu’r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd.
Byddem yn ddiolchgar iawn petaech chi’n ateb ychydig o gwestiynau am eich eiddo chi a pha wybodaeth neu wasanaethau a fyddai’n ddefnyddiol yn eich barn chi. Bydd yr adnoddau i reoli perygl llifogydd yn gyfyngedig bob amser, ac er y bydd canlyniadau’r arolwg yn cynyddu ein gwybodaeth am berygl llifogydd yn y Bwrdeistref, mae’n bosibl na fydd yn arwain at unrhyw waith penodol a fydd yn lleihau’r perygl.