1. Beth ydy o?
Cyllidir Prosiect Adnabod eich Cymuned gan Gronfa Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Nod y Prosiect yw creu darlun (neu broffil) o’r bobl a’r pynciau sy’n bwysig ym mhob un o’r tair ardal Cymunedau yn Gyntaf ym Mhowys - Bro Ddyfi, Oldford (Y Trallwng) ac Ystradgynlais.
Defnyddir yr wybodaeth a gesglir i alluogi gwasanaethau i ymateb yn well i anghenion unigol cymunedau sy’n mynd yn fwy a mwy amrywiol. Bydd hefyd yn helpu i gefnogi’r gwaith o integreiddio pobl sydd wedi eu hallgau o fywyd cymunedol.
Cwblheir y Prosiect gan Siawns Teg (gyda chefnogaeth Resources for Change) mewn partneriaeth gyda Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys a Chymunedau yn Gyntaf Powys.
Byddem yn ddiolchgar pe baech yn treulio ychydig o funudau yn llenwi’r arolwg hwn a fydd yn ein helpu i ddarganfod barn pobl am y materion sy’n berthnasol i’w cymuned.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y Prosiect Adnabod eich Cymuned cysylltwch â Tim Boyle, Siawns Teg ar 07815 099942 neu ebostiwch kycp.siawnsteg@btconnect.com neu Joy Howells, Resources for Change ar 01938 555759 neu ebostiwch joy@r4c.org.uk
Llawer o ddiolch i chi am eich amser.