Mynediad Pobl Ifanc Anabl i Weithgareddau Chwarae a Hamdden yng Nghymru
 

1. CHWARAE A HAMDDEN

 

1. Dyma restr o weithgareddau.

Rho wybod i ni a wyt ti’n gwneud unrhyw un o’r rhain yn rheolaidd (dwywaith y mis), yn achlysurol (tair gwaith y flwyddyn) neu byth.

Os wyt ti’n gwneud gweithgaredd sydd heb ei restru, a wnei di ei ysgrifennu yn y blwch diwethaf a elwir yn ‘arall’ ar ddiwedd y rhestr.

 ticia bob gweithgaredd sy’n berthnasol i ti
Ymweld â’r maes chwarae lleol
Ymweld â’r parc lleol
Sinema
Theatr
Gweithgareddau drama, celfyddydol neu gerddoriaeth
Clwb ar ôl ysgol
Nofio
Dawns / gymnasteg
Chwaraeon eraill e.e. pêl-droed, marchogaeth
Y Geidiaid / Sgowtiaid
Clwb Bechgyn neu Ferched
Clwb / Grŵp Ieuenctid Arall
Grŵp plant anabl

2. Pa weithgaredd chwarae neu hamdden wyt ti’n mwynhau cymryd rhan ynddo FWYAF?

A allet roi gwybod i ni beth wyt ti’n ei fwynhau wrth wneud y gweithgaredd hwn? (rho gynifer o resymau ag yr hoffet)

3. Oes gweithgaredd chwarae neu hamdden yr hoffet ei wneud ond nad wyt ti’n ei wneud ar hyn o bryd? (Ysgrifenna)

4. Beth sy’n dy atal di rhag gallu gwneud y gweithgaredd hwn?

A wnei di edrych drwy’r rhestr isod. Ticia’r blychau nesaf at bob un o’r brawddegau sy’n esbonio pam na elli di wneud y gweithgaredd.



 Ticia bob un sy’n berthnasol
Mae’n rhy anodd ei gyrraedd
Nid oes digon o gymorth na’r math iawn o gymorth i mi
Rwy’n teimlo’n anghyfforddus
Rwy’n poeni am roi cynnig ar rywbeth newydd
Efallai nad yw’r adeilad na’r offer yn addas i mi
Mae’n costio gormod
Nid yw’n croesawu pobl anabl
Nid oes gan bobl anabl hawl i fynd
Nid oes dim byd fel hyn yn fy ardal
Rwy’n poeni y gallwn gael fy mwlio neu fy mhryfocio
Diffyg Cymorth Cyfathrebu

5. Wyt ti erioed wedi ymweld â chanolfan hamdden yn dy ardal?

6. Hoffem wybod pa mor hawdd yw hi i ddefnyddio dy ganolfan hamdden.

Pan fyddi di’n ymweld â’r ganolfan hamdden, sut mae:

 
Cyrraedd yno - ar gludiant cyhoeddus
Parcio
Mynd i mewn i’r adeilad a symud o’i gwmpas
Defnyddio’r ystafelloedd newid
Defnyddio’r toiledau
Agweddau’r staff
Agweddau’r cyhoedd
Gwybodaeth am beth sydd ymlaen
Y gost

7. Wyt ti erioed wedi bod i grŵp ieuenctid?

Mae hwn yn lle rwyt ti’n mynd iddo yn dy amser rhydd i gwrdd â phobl ifanc o’r un oed â thi. Gall y rhain fod yn bethau fel grŵp ieuenctid mewn canolfan gymunedol, Geidiaid neu Sgowtiaid neu Glwb Bechgyn a Merched?

8. Os wyt ti’n mynd i grŵp ieuenctid, neu wedi bod yn mynd i grŵp ieuenctid, elli di dicio ai ar gyfer pobl ifanc anabl yn unig ydoedd, i bob person ifanc, neu i bobl ifanc anabl a’u brodyr a chwiorydd.

9. Hoffem wybod pa mor hawdd yw hi, neu oedd hi, i ti ddefnyddio’r grŵp ieuenctid.

Trwy dicio un blwch i bob categori, elli di roi gwybod i ni sut oedd:

 
Parcio
Cyrraedd yno ar gludiant cyhoeddus
Mynd i mewn i’r adeilad a symud o’i gwmpas
Defnyddio’r toiledau
Agweddau arweinwyr / cynorthwywyr y grŵp
Agweddau’r plant
Amrywiaeth y gweithgareddau
Y gost

10. Pa weithgareddau chwarae, hamdden neu leoedd i ymweld â nhw byddet ti’n eu hargymell i blentyn neu berson ifanc anabl arall?

Beth yw’r pethau da am y gweithgareddau neu’r lleoedd hyn?

Powered by SurveyMonkey
Create your own free online survey now!